AM Y CORFF

Sylfaenol/CA1

Trwydded 5 Defnyddiwr - £65.00 + TAW
Trwydded 10 Defnyddiwr - £110.00 + TAW
Trwydded Safle - £140.00
+ TAW



Casgliad o sgriniau lliwgar gyda chymorth llais, taflenni gwaith a sgriniau 'creu testun' pen agored. Mae'r meddalwedd yn cynnwys geirfa eang ac mae rhai o'r ymarferion yn addas ar gyfer disgyblion ail iaith ac anghenion arbennig yn ogystal â disgyblion y prif lif. Gall plant nad ydynt yn darllen clicio'r llygoden ar unrhyw destun neu raffeg gyda chymorth llais er mwyn ei glywed. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.

Dyma becyn ddefnyddiol i ddysgwyr ifanc gael peth dealltwriaeth am y corff dynol a sut mae'n gweithio. Mae'r teitl yn cynnwys ymarferion am nodweddion wyneb, rhannau allanol y corff a rhai o'r systemau mewnol. Mae'r sgrniau'n cynnwys gweithgareddau labelu, rhoi pethau mewn trefn, cwblhau brawddegau ac ymarferion deall - yr ateb cywir yn arwain at y dasg nesaf. Nid oes unrhyw wybodaeth am yr organau rhywiol.

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:-
Adnabod nodweddion wyneb e.e. gan bwy mae llygaid glas? Gan ba ddau mae gwallt hir?
Labelu, enwi ac adnabod lleoliad prif rannau'r corff, prif rannau'r pen, prif rannau'r fraich, prif rannau'r llaw a phrif rannau'r goes.
Gweithgareddau darllen a deall syml am waith y rhannau e.e. pa un sy'n clywed? Pa un sy'n pwmpio gwaed?
Sgriniau gwybodaeth am nifer o rannau mewnol y corff a'u gwaith e.e. Clicio ar y llecynnau poeth (hot spots) am ragor o wybodaeth ar ffurf brawddegau syml.

TEITLAU PERTHYNOL :-
Y CORFF- Mae angen My World neu Textease i'w redeg.


Cliciwch yma am ragor o wybodaeth


   

 

 

 

 

 

© ClicSoft - 2004-09

Home - Catalogue - Contact - Exhibitions - About Us