Cynhaliaeth Liwgar i'r Cwricwlwm

 
 
:
MEDDALWEDD ADDYSGOL I GYFRIFADURON AC I FYRDDAU GWYN RHYNGWEITHIOL

Byrfodd yw Clic am 'Cynhaliaeth liwgar i'r cwricwlwm'.

Ymddeolodd Gaynor Perry o'i swydd fel athrawes Wyddoniaeth ym mis Awst 1999 a sefydlu Clic ym mis Medi 1999. Ymunodd Thomas ei mab â Clic ym mis Mawrth, 2000.

Mae Clic yn arbenigo mewn cynhyrchu meddalwedd addysgol gan gynnwys pecynnau cynhaliol i raglenni a ddefnyddir yn y sector Cynradd fel Textease a My World. Mae'r pob un o'r pecynnau'n addas ar gyfer PC's a Byrddau Gwyn Rhyngweithiol. Mae rhai yn addas ar gyfer y llwyfan Acorn/RISC OS hefyd.

Mae'r sgriniau lliwgar gyda'u gweithgareddau amrywiol a'u dolen gyswllt gref iawn â'r cwricwlwm wedi derbyn croeso brwd gan athrawon a disgyblion.



   

 

 

 

 

 

© ClicSoft - 2004-06

Home - Catalogue - Contact - Exhibitions - About Us