Casgliad o 3 theitl i gefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA1 Gwyddoniaeth, wedi'i greu gan gyn athrawes Wyddoniaeth. Mae’r meddalwedd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau am y rhan fwyaf o ofynion y cwricwlwm Gwyddoniaeth i'r oedran hwn ac yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd neu adolygu gwaith blaenorol.
Prosesau Bywyd a Phethau Byw - Gweithgareddau amrywiol gan gynnwys didoli anifeiliaid a phlanhigion, enwi prif rannau allanol a mewnol y corff dynol, bwyd, y cynefin, prif rannau planhigion gwyrdd a thyfu hadau.
Prosesau Ffisegol - Gweithgareddau amrywiol gan gynnwys ffynonellau goleuni, goleuni a sain, gwthio a thynnu, newid cyfeiriad, y newid yn safle'r haul yn ystod y dydd, cysgodion, pethau trydanol a chylchedau syml.
Tai a Chartrefi- Gweithgareddau amrywiol gan gynnwys gwahanol fathau o gartrefi, cartrefi anifeiliaid, ffyrdd o adeiladu waliau a thai ac adnabod mathau cyffredin o ddefnyddiau yn ein cartrefi ar sail priodweddau syml.
Y TEITL A’R CWRICWLWM:
Mae’r teitl yn cefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA1 PROSESAU BYWYD A PHETHAU BYW fel y gweler isod:
Prosesau Bywyd:
1. Y gwahaniaethau rhwng pethau byw a phethau nad ydynt yn fyw.
2. Bod gan fodau dynol ac anifeiliaid eraill synhwyrau.
3. Bod anifeiliaid gan gynnwys bodau dynol yn symud, bod angen bwyd a diod arnynt,
eu bod yn tyfu ac atgenhedlu.
Bodau dynol ac anifeiliaid eraill:
1. Enwi prif rannau allanol y corff.
2. Adnabod nodweddion sy’n debyg ac yn wahanol ryngddynt.
3. Cymharu rhannau allanol cyrff dynol â rhannau allanol anifeiliaid eraill.
4. Bod bwyta’r mathau cywir o fwyd yn helpu bodau dynol i gadw’n iach.
5. Y gall bodau dynol gynhyrchu babanod a bod y babanod hyn yn tyfu’n oedolion.
Planhigion gwyrdd fel organebau:
1. Bod angen goleuni a dwr ar blanhigion i dyfu’n iach.
2. Adnabod deilen, blodyn, coesyn a gwreiddyn planhigyn blodeuol.
3. Bod planhigion blodeuol yn cynhyrchu hadau sydd yn eu tro yn cynhyrchu planhigion
newydd.
Pethau byw yn eu hamgylchedd:
1. I ddysgu am y gwahanol fathau o blanhigion ac anifeiliaid sydd i’ w cael yn yr
amgylchedd.
2. Bod modd gosod anifeiliaid a phlanhigion mewn grwpiau.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (94 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (32 KB)
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Mae’r teitl yn cefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA1 PROSESAU FFISEGOL fel y gweler isod:
Trydan:
1. Bod llawer o offer pob dydd yn defnyddio trydan.
2. I adeiladu ac ymchwilio I gylchedau syml.
3. Na fydd dyfeisiau trydanol yn gweithio os bydd toriad yn y gylched.
Grymoedd a mudiant:
1. I ddisgrifio symudiad pethau cyfarwydd.
2. Y gall gwthio neu dynnu wneud I rywbeth gyflymu, arafu neu newid cyfeiriad.
3. Bod gwthio a thynnu yn engrhreifftiau o rymoedd.
4. Bod grymoedd yn cael eu defnyddio wrth newid siâp gwrthrych.
Goleuni a sain:
1. Bod goleuni’n dod o amrywiaeth o ffynonellau.
2. Mai absenoldeb goleuni yw tywyllwch.
3. Bod llawer o fathau o sain a ffynonellau sain.
4. Bod seiniau’n teithio oddi wrth ffynonellau.
5. Bod seiniau’n cael eu clywed pan fyddan nhw’n mynd i mewn i’r glust.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (93 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (30 KB)
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Mae’r teitl yn cefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA1 DEFNYDDIAU A'U PRIODWEDDAU ac YMHOLIAD GWYDDONOL fel y gweler isod:
DEFNYDDIAU A’U PRIODWEDDAU
Grwpio defnyddiau::
1. Defnyddio’r synhwyrau i archwilio pethau sy’n debyg ac yn wahanol mewn
defnyddiau.
2. Didoli defnyddiau’n grwpiau.
3. Adnabod ac enwi mathau cyffredin o ddefnydd.
4. Dod o hyd i’r ffyrdd y defnyddir amrywiaeth o ddefnyddiau cyffredin.
YMHOLIAD GWYDDONOL
Sgiliau ymchwiliol:
1. Trosi syniadau a awgrymir iddynt yn ffurf y gellir ymchwilio iddi.
2. Y gall meddwl am yr hyn a allai digwydd.
3. Penderfyny beth y dylid arsylwi arno neu ei fesur.
4. Sylweddoli nad yw parawf bob amser yn deg.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (94 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (31 KB)
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
GWYBODAETH GYFFREDINOL:
MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.
Mae'r ymarferion yn cynnwys gweithgareddau llusgo lluniau a labeli i'r lle cywir, gweithgareddau didoli a gweithgareddau archwiliol. Gall rhai o'r gweithgareddau arwain at waith ymarferol yn y dosbarth. Mae botymau'n galluogi i'r plant agor paneli tasg a phaneli cymorth fel y gallent weithio'n anibynnol neu mewn grwpiau heb lawer o gymorth gan yr athro. Gallant ddefnyddio'r botymau testun a phaneli geiriau a lluniau i ychwanegu gwybodaeth at y sgriniau. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.
Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o'r sgriniau yn cynnig opsiwn 'sgrîn wag' i'w hunan gynllunio. Mae hyn yn galluogi i'r plant ddilyn rhai agweddau o'r gwaith ymhellach, neu gwblhau tasgau wedi'i osod gan yr athro. Mae'r sgriniau newydd yn ddefnyddiol pe bae angen addasu'r sgriniau ar gyfer disgyblion anghenion arbennig.
Mae gan sgriniau'r fformat My World fotwm 'Ail Osod'. Mae hwn yn ddefnyddiol iawn yn enwedig wrth ddefnyddio'r bwrdd gwyn rhyngweithiol. Gall nifer o blant rhoi cynnig ar y gweithgareddau heb orfod ail lwytho'r meddalwedd.
Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Nid yw'r sgriniau'n hunan gywiro, felly mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant.
LIFE PROCESSES AND LIVING THINGS - TEEM EVALUATION 2002:
"The program provides a range of activities relating directly to KS1 Science: Life Processes and Living Things is a breath of fresh air in terms of its appeal and ease of use".
TEITL PERTHYNOL:
GWYDDONIAETH GYNNAR - Teitl hunangynhaliol i gefnogi'r CWRICWLWLM GWYDDONIAETH CA1.
