Casgliad o sgriniau i gefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau am y rhan fwyaf o ofynion y cwricwlwm Gwyddoniaeth CA2 Bodau dynol fel organebau i'r oedran hwn. Mae'r sgriniau'n cynnwys ymarferion am y galon a chylchrediad y gwaed, y sgerbwd a symudiad, y dannedd, bwyd a diet ac effaith tybaco ac alcohol ar y corff. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.
Y TEITL A’R CWRICWLWM:
Mae’r teitl yn cefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA2 BODAU DYNOL FEL ORGANEBAU. Mae'r teitl yn cynnwys rhai agweddau ar ofynion Cwricwlwm Cenedlaethol CA3 er mwyn rhoi mwy o her i'r dawnus a thalentog:
CA2 BODAU DYNOL AC ANIFEILIAID ERAILL:
Maethiad:
1. Sut mae’r dannedd yn torri bwyd yn llai a phwysigrwydd gofalu am y dannedd.
2. Bod angen gwahanol fwydydd ar y corff ar gyfer gweithgarwch ac ar gyfer twf.
3. Bod angen diet digonol ac amrywiol i gadw’n iach.
Cylchrediad:
4. Bod y galon yn gweithredu fel pwmp.
5. Sut mae’r gwaed yn cylchredeg yn y corff drwy rydwelïau a gwythiennau.
6. Bod y curiad yn rhoi mesur o gyfradd uriad y galon.
7. Effaith ymarfer corff a gorffwys ar gyfradd curiad y galon.
Symud:
8. Bod gan fodau dynol sgerbydau a chyhyrau i gymmal ac amddiffyn eu cyrff a’u helpu i symud.
Twf ac atgenhedlu:
9. Prif gamau cylchred bywyd dynol (heb gynnwys yr organau rhyw).
Iechyd:
10. Gall tybaco, alcohol a chyffuriau eraill fod ag effeithiau niweidiol.
CA3 BODAU DYNOL FEL ORGANEBAU:
Maethiad:
2. Dod i wybod am rai o ffynonellau’r prif gydrannau bwyd yn y diet.
3. Prif swyddogaethau cydrannau diet cytbwys.
Cylchrediad:
6. Sut mae’r gwaed yn gweithredu fel cyfrwng cludo.
Symud:
7. Rôl y sgerbwd, y cymalau a’r cyhyrau wrth symud.
8. Yr egwyddor o baru gwrthweithiol o gyhyrau.
Twf ac atgenhedlu:
11. Sut mae’r ffoetws yn datblygu yn y groth gan gynnwys rôl y brych.
Anadlu:
12. Sut mae adeiledd yr ysgyfaint yn fodd i gyfnewid nwyon.
13. Bod ysmygu’n effeithio ar y broses o gyfnewid nwyon.
Iechyd:
18. Bod camdefnyddio alcolohol a tybaco yn effeithio ar yr iechyd.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (97 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (32 KB)
GWYBODAETH GYFFREDINOL:
MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.
Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.
Mae'r ymarferion yn cynnwys gweithgareddau llusgo lluniau a labeli i'r lle cywir, gweithgareddau didoli a gweithgareddau archwiliol. Gall rhai o'r gweithgareddau arwain at waith ymarferol yn y dosbarth. Mae botymau'n galluogi i'r plant agor paneli tasg, paneli cymorth a phaneli ymchwil fel y gallent weithio'n anibynnol neu mewn grwpiau heb lawer o gymorth gan yr athro. Gallant ddefnyddio'r botymau testun a phaneli geiriau a lluniau i ychwanegu gwybodaeth at y sgriniau.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o'r sgriniau yn cynnig opsiwn 'sgrîn wag' i'w hunan gynllunio. Mae hyn yn galluogi i'r plant ddilyn rhai agweddau o'r gwaith ymhellach, neu gwblhau tasgau wedi'i osod gan yr athro. Mae'r sgriniau newydd yn ddefnyddiol pe bae angen addasu'r sgriniau ar gyfer disgyblion anghenion arbennig.
Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Nid yw'r sgriniau'n hunan gywiro, felly mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant.
