CYFRES AR BEN Y FFORDD
FFORMAT MY WORLD 3 A FFORMAT TEXTEASE
Cliciwch ar y lluniau am ragor o wybodaeth
PROSESAU BYWYD A PHETHAU BYW
PROSESAU FFISEGOL
TAI A CHARTREFI
CASGLIAD AR BEN Y FFORDD MY WORLD 3


GWYBODAETH GYFFREDINOL:


MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.

Mae modd defnyddio'r botymau graddio ar deitlau fformat My World y meddalwedd i newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG.

Mae gan sgriniau'r fformat My World fotwm 'Ail Osod'. Mae hwn yn ddefnyddiol iawn yn enwedig wrth ddefnyddio'r bwrdd gwyn rhyngweithiol. Gall nifer o blant rhoi cynnig ar y gweithgareddau heb orfod ail lwytho'r meddalwedd.

Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.

Mae'r ymarferion yn cynnwys gweithgareddau llusgo lluniau a labeli i'r lle cywir a gweithgareddau didoli. Gall rhai o'r gweithgareddau arwain at waith ymarferol yn y dosbarth. Mae botymau'n galluogi i'r plant agor paneli tasg a phaneli cymorth fel y gallent weithio'n anibynnol neu mewn grwpiau heb lawer o gymorth gan yr athro. Gallant ddefnyddio'r botymau testun a phaneli geiriau a lluniau i ychwanegu gwybodaeth at y sgriniau.

Yn ogystal â hyn, mae nifer o'r sgriniau yn cynnig opsiwn 'sgrîn wag' i'w hunan gynllunio. Mae hyn yn galluogi i'r plant ddilyn rhai agweddau o'r gwaith ymhellach, neu gwblhau tasgau wedi'i osod gan yr athro. Mae'r sgriniau newydd yn ddefnyddiol pe bae angen addasu'r sgriniau ar gyfer disgyblion anghenion arbennig.

Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Nid yw'r sgriniau'n hunan gywiro, felly mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant.


 

 

 

 

 

© ClicSoft - 2004-09

Home - Catalogue - Contact - Exhibitions - About Us