CYFRES YMLAEN Â'R WYDDONIAETH
FFORMAT MY WORLD 3 A FFORMAT TEXTEASE
Cliciwch ar y lluniau am ragor o wybodaeth
BODAU DYNOL FEL ORGANEBAU
DEFNYDDIAU A'U PRIODWEDDAU
GOLEUNI, SAIN A'R DDAEAR A THU HWNT
PETHAU BYW YN EU HAMGYLCHEDD
PLANHIGION GWYRDD FEL ORGANEBAU
GRYMOEDD A MUDIANT
TRYDAN A PHWER CASGLIAD YMLAEN Â'R WYDDONIAETH MY WORLD 3


GWYBODAETH GYFFREDINOL:

MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.

Mae modd defnyddio'r botymau graddio ar deitlau fformat My World y meddalwedd i newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG.

Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.

Mae'r ymarferion yn cynnwys gweithgareddau llusgo lluniau a labeli i'r lle cywir, gweithgareddau didoli a gweithgareddau archwiliol. Gall rhai o'r gweithgareddau arwain at waith ymarferol yn y dosbarth. Mae botymau'n galluogi i'r plant agor paneli tasg, paneli cymorth a phaneli ymchwil fel y gallent weithio'n anibynnol neu mewn grwpiau heb lawer o gymorth gan yr athro. Gallant ddefnyddio'r botymau testun a phaneli geiriau a lluniau i ychwanegu gwybodaeth at y sgriniau.

Yn ogystal â hyn, mae nifer o'r sgriniau yn cynnig opsiwn 'sgrîn wag' i'w hunan gynllunio. Mae hyn yn galluogi i'r plant ddilyn rhai agweddau o'r gwaith ymhellach, neu gwblhau tasgau wedi'i osod gan yr athro. Mae'r sgriniau newydd yn ddefnyddiol pe bae angen addasu'r sgriniau ar gyfer disgyblion anghenion arbennig.

Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Nid yw'r sgriniau'n hunan gywiro, felly mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant.


 

 

 

 

 

© ClicSoft - 2004-09

Home - Catalogue - Contact - Exhibitions - About Us