Y CORFF

Sylfaenol/CA1

Trwydded 5 Cyfrifiadur- £30 + TAW
Trwydded Safle - £60
+ TAW

Fformat My World/Textease
(Y ddau fformat ar yr un CD-ROM)


Casgliad o sgriniau lliwgar gyda chymorth llais am rannau'r corff, nodweddion wyneb a rhai o systemau'r corff. Mae'r meddalwedd yn cynnwys geirfa eang. Mae rhai o'r ymarferion yn addas ar gyfer disgyblion ail iaith ac anghenion arbennig yn ogystal â disgyblion y prif lif. Gall plant nad ydynt yn darllen symud y llygoden dros unrhyw destun neu raffeg gyda chymorth llais er mwyn ei glywed.

Mae gan sgriniau'r fformat My World fotwm 'Ail Osod'. Mae hwn yn ddefnyddiol iawn yn enwedig wrth ddefnyddio'r bwrdd gwyn rhyngweithiol. Gall nifer o blant rhoi cynnig ar y gweithgareddau heb orfod ail lwytho'r meddalwedd. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:-
Adnabod nodweddion wyneb e.e. gan bwy mae llygaid glas? Gan ba ddau mae gwallt hir?
Labelu, enwi ac adnabod lleoliad prif rannau'r corff, prif rannau'r pen, prif rannau'r fraich, prif rannau'r llaw a phrif rannau'r goes.
Gweithgareddau darllen a deall syml am waith y rhannau e.e. pa un sy'n clywed? Pa un sy'n pwmpio gwaed?
Sgriniau gwybodaeth am nifer o rannau mewnol y corff a'u gwaith e.e. Clicio ar y llecynnau poeth (hot spots) am ragor o wybodaeth ar ffurf brawddegau syml.

MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.

Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (94 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (32 KB)





   

 

 

 

 

 

© ClicSoft - 2004-09

Home - Catalogue - Contact - Exhibitions - About Us