Casgliad o sgriniau i gefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau am y rhan fwyaf o ofynion y cwricwlwm Gwyddoniaeth CA2 Defnyddiau a'u priodweddau i'r oedran hwn. Mae'r sgriniau'n cynnwys ymarferion am solidau, hylifau a nwyon, priodweddau defnyddiau, ynysyddion thermal a thrydanol, creigiau a cherrig, y gylchred ddwr, gwahanu, grwpio a newid defnyddiau ac adweithiau y gellir neu na ellir eu cildroi. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.
Y TEITL A'R CWRICWLWM:
Mae’r teitl yn cefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA2 DEFNYDDIAU A’U PRIODWEDDAU. Mae'r teitl yn cynnwys rhai agweddau ar ofynion Cwricwlwm Cenedlaethol CA3 er mwyn rhoi mwy o her i'r dawnus a thalentog:
CA2 DEFNYDDIAU A’U PRIODWEDDAU:
Grwpio a dosbarthu defnyddiau:
1. Cymharu defnyddiau pob dydd ar sail eu priodweddau.
2. Bod rhai defnyddiau’n well nac eraill am ynysu / dargludo gwres.
3. Bod rhai defnyddiau’n well nac eraill am ddargludo / ynysu trydan.
4. Disgrifio a grwpio creigiau ar sail ymddangosiad a gwead, a phriddoedd ar sail maint y gronynnau a’r athreidded.
5. Adnabod gwahaniaethau rhwng solidau, hylifau a nwyon ar ran eu priodweddau.
Newid defnyddiau:
1. Archwilio’r newidiadau mewn defnyddiau ac adnabod y rhai y gellir eu cildroi a’r
rhai na ellir eu cildroi.
2. Bod hydoddi, ymdoddi, cyddwyso, rhewi ac anweddu yn newidiadau y gellir eu cildroi.
3. Bod newidiadau na ellir eu cildroi yn cynhyrchu defnydd newydd.
4. Nad yw’n bosib cildroi newidiadau sy’n digwydd wrth losgi’r rhan fwyaf o ddefnyddiau.
5. Y gall cymysgu defnyddiau achosi iddynt newid.
6. Y gall gwresogi neu oeri defnyddiau achosi iddynt newid.
7. Mae mesur o ba mor boeth neu oer yw pethau yw tymheredd.
8. Y rhan a chwareir gan anweddu a chyddwyso yn y gylchred ddwr.
Gwahanu cymysgeddau o ddefnyddiau:
1. Bod modd gwahanu gronynnau solid o wahanol faint drwy ridyllu.
2. Bod rhai solidau yn hydoddi mewn dwr I roi hydoddiannau, ond nad yw rhai solidau
yn gwneud hynnu, a bod hyn yn ffordd o wahanu gwahanol solidau.
3. Bod modd gwahanu solidau anhydawdd oddi wrth hylifau drwy hidlo.
4. Bod modd adfer solidau sydd wedi hydoddi drwy anweddu’r hylif o’r hydoddiant.
CA3 DEFNYDDIAU A’U PRIODWEDDAU:
Newid defnyddiau: :
6. Sut caiff creigiau igneaidd, gwaddodol a metamorffig eu ffurfio.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (96 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (33 KB)
GWYBODAETH GYFFREDINOL
MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.
Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.
Mae'r ymarferion yn cynnwys gweithgareddau llusgo lluniau a labeli i'r lle cywir, gweithgareddau didoli a gweithgareddau archwiliol. Gall rhai o'r gweithgareddau arwain at waith ymarferol yn y dosbarth. Mae botymau'n galluogi i'r plant agor paneli tasg, paneli cymorth a phaneli ymchwil fel y gallent weithio'n anibynnol neu mewn grwpiau heb lawer o gymorth gan yr athro. Gallant ddefnyddio'r botymau testun a phaneli geiriau a lluniau i ychwanegu gwybodaeth at y sgriniau.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o'r sgriniau yn cynnig opsiwn 'sgrîn wag' i'w hunan gynllunio. Mae hyn yn galluogi i'r plant ddilyn rhai agweddau o'r gwaith ymhellach, neu gwblhau tasgau wedi'i osod gan yr athro. Mae'r sgriniau newydd yn ddefnyddiol pe bae angen addasu'r sgriniau ar gyfer disgyblion anghenion arbennig.
Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Nid yw'r sgriniau'n hunan gywiro, felly mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant.
