|
Croeso i ‘My World 3’ y fersiwn Cymraeg.
Datblygwyd My World yn y lle cyntaf gan dîm cynnal T.G. yn Swydd Derby. Mae wedi tyfu’n adnodd meddalwedd addysgiadol poblogaidd arobryn. O ran cysyniad mae’n syml iawn ond dyma’r rhaglen a ddefnyddir fwyaf bellach yn addysg y D.U.
Gall sgriniau My World 3 gynnwys lluniau, testun, animeiddio, fideo a sain. Gellir codi’r rhain, eu symud, eu gollwng a’u dileu. Gellir ychwanegu testun a’i olygu. Mae’r rhaglen yn syml iawn i’w dysgu a’i defnyddio ac eto mae’n ddigon pwerus i fod yn erfyn dysgu effeithiol iawn. Gellir defnyddio My World mewn llawer dull a modd ar draws y cwricwlwm ysgol i gyd.
Mae’r sgriniau yn y pecyn cyflwyno hwn yn cael eu hanelu at ystod eang o oed, gallu a meysydd cwricwlaidd. Maen nhw’n cynnwys ystod eang o weithgareddau addysgiadol a brofwyd yn llwyddiannus, yn ogystal â’u hamcanu at ddangos hyblygrwydd My World. Fodd bynnag, nid yw hyn ond megis dechrau.
Gall My World 3 lwytho a rhedeg sgriniau o unrhyw fersiwn blaenorol, Acorn neu PC.
Mae My World 3 for Windows Y Fersiwn Cymraeg yn © i Feddalwedd Addysgol Clic 2002. Addaswyd y sgriniau gan Gaynor Perry. Ymgynghorydd iaith Beryl Steeden Jones.
|