Casgliad o sgriniau i gefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau am y rhan fwyaf o ofynion y cwricwlwm Gwyddoniaeth CA2 Goleuni, sain a'r Ddaear a thu hwnt i'r oedran hwn. Mae'r sgriniau'n cynnwys ymarferion am ffynonellau goleuni, cysgodion, adlewyrchu goleuni, gweld a chlywed, tonnau sain, newid traw a chryfder seiniau, yr Haul , y Lleuad a'r planedau a'r newidiadau cyfnodol. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.
Y TEITL A’R CWRICWLWM:
Mae’r teitl yn cefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA2 GOLEUNI A SAIN a'r DDAEAR A THU HWNT. Mae'r teitl yn cynnwys rhai agweddau ar ofynion Cwricwlwm Cenedlaethol CA3 er mwyn rhoi mwy o her i'r dawnus a thalentog:
CA2 GOLEUNI A SAIN
:
Ymddygiad g oleuni:
1. Bod goleuni’n teithio oddi wrth ffynhonnell.
2. Ein bod yn gweld ffynonellau goleuni oherwydd bod goleuni yn teithio oddi wrthynt ac i mewn i’n llygaid.
3. Ein bod yn gweld gwrthrychau oherwydd caiff y goleuni sy’n syrhtio arnynt yn cael ei adlewyrchu.
4. Caiff y rhan fwyaf o’r goleuni sy’n syrthio ar arwyneb sgleiniog a drychau ei adlewyrchu.
5. Na all goleuni fynd drwy rai ddefnyddiau, a bod hynny’n arwain at ffurfio cysgodion.
Dirgrynu a sain:
6. Bod seiniau’n cael eu gwneud pan fydd gwrthrychau yn dirgrynnu.
7. Gellir newid traw a chryfder seiniau a gynhyrchir gan rai gwrthrychau sy’n dirgrynu.
8. Gall dirgryniadau a ffynonellau sain deithio drwy amrywiaeth o ddefnyddiau.
CA2 Y DDAEAR A THU HWNT:
Yr Haul, Y Lleuad a'r Planedau:
1. Bod yr Haul, y Ddaear a’r Lleuad fwy neu lai yn sfferig.
2. Safleoedd cymharol yr Haul, y Ddaear a’r planedau eraill yng nghysawd yr haul.
Newidiadau cyfnodol:
3. Sut mae safle’r Haul fel petai’n newid dros ddiwrnod cyfan a mae cysgodion yn newid wrth i hynny ddigwydd.
4. Bod y Ddaear yn troelli o amgylch ei hechelin ei hun, a sut mae dydd a nos yn gysylltiedig a’r troelli hwnnw.
5. Bod y Ddaear yn troi o gwmpas yr Haul unwaith y flwyddyn, a bod y Lleuad yn cymryd rhyw 28 diwrnod i droi o gwmpas y Ddaear.
CA3 GOLEUNI A SAIN:
Clywed:
10. Bod tonnau sain yn peri idympan y glust ddirgrynu.
Dirgrynu a sain:
13. Y cyswllt thwng cryfder sain ac osgledd y dirgrynu sy'n ei achosi.
14. Y cyswllt rhwng traw sain ac amledd y dirgrynu sy'n ei achosi.
CA3 Y DDAEAR A THU HWNT:
Symudiadau lloeren:
1. Mae symudiadau'r Ddaear sy'n achosi symudiadau beunyddiol a blynyddol ymddangosiadol yr Haul.
2. Bod amser orbital planed / lloeren yn dibynnu ar ei phellter o'r Haul / Ddaear.
4. Bod yr Haul a'r ser eraill yn ffynonellau goleuni.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (96 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (29 KB)
GWYBODAETH GYFFREDINOL:
MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur..
Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.
Mae'r ymarferion yn cynnwys gweithgareddau llusgo lluniau a labeli i'r lle cywir, gweithgareddau didoli a gweithgareddau archwiliol. Gall rhai o'r gweithgareddau arwain at waith ymarferol yn y dosbarth. Mae botymau'n galluogi i'r plant agor paneli tasg, paneli cymorth a phaneli ymchwil fel y gallent weithio'n anibynnol neu mewn grwpiau heb lawer o gymorth gan yr athro. Gallant ddefnyddio'r botymau testun a phaneli geiriau a lluniau i ychwanegu gwybodaeth at y sgriniau.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o'r sgriniau yn cynnig opsiwn 'sgrîn wag' i'w hunan gynllunio. Mae hyn yn galluogi i'r plant ddilyn rhai agweddau o'r gwaith ymhellach, neu gwblhau tasgau wedi'i osod gan yr athro. Mae'r sgriniau newydd yn ddefnyddiol pe bae angen addasu'r sgriniau ar gyfer disgyblion anghenion arbennig.
Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Nid yw'r sgriniau'n hunan gywiro, felly mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant.
