GRYMOEDD A MUDIANT

CA2

Trwydded 5 Cyfrifiadur- £30 + TAW
Trwydded Safle - £60
+ TAW

Fformat My World/Textease

(Y ddau fformat ar yr un CD-ROM)

Cliciwch yma am gasgliad Ymlaen â'r Wyddoniaeth

 


Casgliad o sgriniau i gefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau am y rhan fwyaf o ofynion y cwricwlwm Gwyddoniaeth CA2 Grymoedd a mudiant i'r oedran hwn. Mae'r sgriniau'n cynnwys ymarferion am fagnetedd, disgyrchiant, ffrithaint, gwrthiant aer a gwrthiant dwr. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.

Y TEITL A’R CWRICWLWM

Mae’r teitl yn cefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA2 GRYMOEDD A MUDIANT. Mae'r teitl yn cynnwys rhai agweddau ar ofynion Cwricwlwm Cenedlaethol CA3 er mwyn rhoi mwy o her i'r dawnus a thalentog:

CA2 GRYMOEDD A MUDIANT:

Ymddygiad grymoedd:
1. Mesur y grymoedd rhwng gwrthrychau a darganfod sut mae’r grymoedd yn newid o ran maint.
2. Bod grymoedd yn gweithredu I gyfeiriadau penodol.
3. Gall grymoedd achosi I bethau cyflymu, arafu a newid cyfeiriad.
Mathau o rym:
4. Bod grymoedd atynnu a grymoedd gwrthyrru rhwng magnetau, a grymoedd atynnu rhwng magnetau a rhai defnyddiau.
5. Mai pwysau gwrthrych yw grym y Ddaear ar y gwrthrych ac fe’u mesurir mewn newtonau.
6. Ffrithiant gan gynnwys gwrthiant aer.
7. Bydd gwrthrychau sy’n cael eu hestyn neu eu cywasgu yn gweithredu grym ar beth bynnag sy’n newid eu siâp.
8. Defnyddir y newid yn siâp sbring mewn mesuryddion grym ar gyfer mesur grymoedd.

CA3 GRYMOEDD A MUDIANT:

Grym a mudiant:
3. Bod grymoedd anhytbwys yn newid buanedd a / neu gyfeiriad gwrthrychau sy'n symud.
5. Ffyrdd y gall grymoedd ffrithiannl gan gynnwys gwrthiant aer effeithio ar fudiant.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (91 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (30 KB)

GWYBODAETH GYFFREDINOL

MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.

Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.

Mae'r ymarferion yn cynnwys gweithgareddau llusgo lluniau a labeli i'r lle cywir, gweithgareddau didoli a gweithgareddau archwiliol. Gall rhai o'r gweithgareddau arwain at waith ymarferol yn y dosbarth. Mae botymau'n galluogi i'r plant agor paneli tasg, paneli cymorth a phaneli ymchwil fel y gallent weithio'n anibynnol neu mewn grwpiau heb lawer o gymorth gan yr athro. Gallant ddefnyddio'r botymau testun a phaneli geiriau a lluniau i ychwanegu gwybodaeth at y sgriniau.

Yn ogystal â hyn, mae nifer o'r sgriniau yn cynnig opsiwn 'sgrîn wag' i'w hunan gynllunio. Mae hyn yn galluogi i'r plant ddilyn rhai agweddau o'r gwaith ymhellach, neu gwblhau tasgau wedi'i osod gan yr athro. Mae'r sgriniau newydd yn ddefnyddiol pe bae angen addasu'r sgriniau ar gyfer disgyblion anghenion arbennig.

Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Nid yw'r sgriniau'n hunan gywiro, felly mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant.

 


   

 

 

 

 

 

© ClicSoft - 2004-09

Home - Catalogue - Contact - Exhibitions - About Us