Casgliad o weithgareddau cyfatebu a labelu lliwgar a deniadol i'r Cyfnod Sylfaen yn bennaf. Mae'r ymarferion yn hybu sgiliau llygoden, cyfatebu a chyfathrebu ac yn addas ar gyfer disgyblion mamiaith, ail iaith ac anghenion arbennig.
Lefel 1 - lluniau yn y canol
Lefel 2 - testun yn y canol
Ymarfer agored - prosesydd geiriau, lluniau a siâp moleciwl.
Lefel 1a - Lluniau:
Gweithgaredd A (arferol):
Llenwi'r cylchoedd gwag trwy gyfatebu'r lluniau sy'n ymddangos yn y cylch ar y chwith gyda'r lluniau yn y canol. Llusgo'r lluniau eraill at X.
Gweithgaredd B (eithriad).
Llenwi'r cylchoedd gwag trwy lusgo'r lluniau nad ydynt yn ymddangos yn y canol atynt. Llusgo'r lluniau eraill at X.
Lefel 1b - Geiriau: (Gweithgaredd A yn unig).
Clic de ar deitlau gweithgaredd A ar y ddewislen, neu bwyso G ar y sgriniau unigol i agor yr eirfa. Yna llenwi'r cylchoedd gwag trwy gyfatebu'r geiriau sy'n ymddangos yn y cylch ar y chwith gyda'r lluniau yn y canol. Llusgo'r geiriau eraill at X.
Lefel 2a - Testun:
Gweithgaredd A (arferol):
Llenwi'r cylchoedd gwag trwy gyfatebu'r lluniau sy'n ymddangos yn y cylch ar y chwith gyda'r testun yn y canol. Llusgo'r lluniau eraill at X.
Gweithgaredd B (eithriad).
Llenwi'r cylchoedd gwag trwy lusgo'r lluniau nad ydynt yn berthynol i'r testun yn y canol atynt. Llusgo'r lluniau eraill at X.
Lefel 2b - Geiriau: (Gweithgaredd A yn unig).
Clic de ar deitlau gweithgaredd A ar y ddewislen, neu bwyso G ar y sgriniau unigol i agor yr eirfa. Yna llenwi'r cylchoedd gwag trwy gyfatebu'r geiriau sy'n ymddangos yn y cylch ar y chwith gyda'r testun yn y canol. Llusgo'r geiriau eraill at X.
Ymarfer agored:
Prosesydd geiriau yn ogystal â siâp moleciwl yn cynnig cyfle i ddewis lluniau o'r panel ac ysgrifennu amdanynt.
Clic chwith i agor yr ymarfer. Clic de i greu tasg / teitl i'r ymarfer.
Yr Ymarferion:
Gweithgaredd A:
Mamaliaid
Adar
Pryfed
Anifeiliaid fferm
Hedfan
Gyda chynffon
Asgwrn cefn
Pedair coes
Byw mewn dwr
Cerdded
Gweithgaredd B:
Nid mamaliaid
Nid adar
Nid pryfed
Nid anifeiliaid fferm
Nid yn hedfan
Heb gynffon
Heb asgwrn cefn
Nid pedair coes
Nid yn byw mewn dwr
Nid yn cerdded.

