Moleciwl: Defnyddiau

Sylfaenol/CA1

Trwydded 5 Defnyddiwr - £50 + TAW
Trwydded 10 Defnyddiwr - £70 + TAW
Trwydded Safle - £80
+ TAW

Cliciwch yma i redeg y fersiw
n gwerthuso

Casgliad o weithgareddau cyfatebu a labelu lliwgar a deniadol i'r Cyfnod Sylfaen yn bennaf. Mae'r ymarferion yn hybu sgiliau llygoden, cyfatebu a chyfathrebu ac yn addas ar gyfer disgyblion mamiaith, ail iaith ac anghenion arbennig.

Lefel 1 - lluniau yn y canol
Lefel 2 - testun yn y canol
Ymarfer agored - prosesydd geiriau, lluniau a siâp moleciwl.

Lefel 1a - Lluniau:
Gweithgaredd A (arferol):
Llenwi'r cylchoedd gwag trwy gyfatebu'r lluniau sy'n ymddangos yn y cylch ar y chwith gyda'r lluniau yn y canol. Llusgo'r lluniau eraill at X.
Gweithgaredd B (eithriad).
Llenwi'r cylchoedd gwag trwy lusgo'r lluniau nad ydynt yn ymddangos yn y canol atynt. Llusgo'r lluniau eraill at X.
Lefel 1b - Geiriau: (Gweithgaredd A yn unig).
Clic de ar deitlau gweithgaredd A ar y ddewislen, neu bwyso G ar y sgriniau unigol i agor yr eirfa. Yna llenwi'r cylchoedd gwag trwy gyfatebu'r geiriau sy'n ymddangos yn y cylch ar y chwith gyda'r lluniau yn y canol. Llusgo'r geiriau eraill at X.

Lefel 2a - Testun:
Gweithgaredd A (arferol):
Llenwi'r cylchoedd gwag trwy gyfatebu'r lluniau sy'n ymddangos yn y cylch ar y chwith gyda'r testun yn y canol. Llusgo'r lluniau eraill at X.
Gweithgaredd B (eithriad).
Llenwi'r cylchoedd gwag trwy lusgo'r lluniau nad ydynt yn berthynol i'r testun yn y canol atynt. Llusgo'r lluniau eraill at X.
Lefel 2b - Geiriau: (Gweithgaredd A yn unig).
Clic de ar deitlau gweithgaredd A ar y ddewislen, neu bwyso G ar y sgriniau unigol i agor yr eirfa. Yna llenwi'r cylchoedd gwag trwy gyfatebu'r geiriau sy'n ymddangos yn y cylch ar y chwith gyda'r testun yn y canol. Llusgo'r geiriau eraill at X.

Ymarfer agored:
Prosesydd geiriau yn ogystal â siâp moleciwl yn cynnig cyfle i ddewis lluniau o'r panel ac ysgrifennu amdanynt.
Clic chwith i agor yr ymarfer. Clic de i greu tasg / teitl i'r ymarfer.

Yr Ymarferion:


Gweithgaredd A:

Pren
Plastig
Metel
Ffabrig
Gydag olwynion
Gyda gwallt
Byw
Gydag adenydd
Symud
Gwneud swn
Hedfan
Meddal
4 coes.

Gweithgaredd B:

Nid pren
Nid plastig
Nid metel
Nid ffabrig
Heb olwynion
Heb wallt
Nid yn fyw
Heb adenydd
Nid yn symud
Nid yn gwneud swn
Nid yn hedfan
Nid yn feddal
Nid 4 coes








   

 

 

 

 

 

© ClicSoft - 2004-09

Home - Catalogue - Contact - Exhibitions - About Us