Casgliad o sgriniau i gefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau am y rhan fwyaf o ofynion y cwricwlwm Gwyddoniaeth CA2 Pethau byw yn eu hamgylchedd i'r oedran hwn. Mae'r sgriniau'n cynnwys ymarferion am brosesau bywyd, cadwyni bwyd, microbau, creu compost, addasu i'r cynefin a dilyn allweddau. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgringipion. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgringipion ar ffurff pdf.
Y TEITL A’R CWRICWLWM:
Mae’r teitl yn cefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA2 PETHAU BYW YN EU HAMGYLCHEDD. Mae'r teitl yn cynnwys rhai agweddau ar ofynion Cwricwlwm Cenedlaethol CA3 er mwyn rhoi mwy o her i'r dawnus a thalentog:
CA2 PETHAU BYW YN EU HAMGYLCHEDD:
Prosesau bywyd:
1.Bod prosesau bywyd i'w gael gan gynnwys maethiad, symud, twf ac atgenhedlu, sy'n gyffredin i anifeilaid gan gynnwys bodau dynol.
2. Bod prosesau bywyd i'w gael gan gynnwys maethiad, twf ac atgenhedlu, sy'n gyffredin i
blanhigion.
Ymaddasu:
1. Ymchwilio i’r amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid gwahanol mewn cynefinoedd gwahanol.
2. Sut mae anifeiliaid a phlanhigion mewn dau gynefin gwahanol yn addas i’w hamgylchedd.
3. Bod cadwynau bwydydd yn dangos perthnasoedd bwydo mewn ecosystem.
Perthnasoedd bwydo:
4. Bod bron pob cadwyn fwyd yn cychwyn gyda phlanhigion gwyrdd.
Amrywiad:
5. Sut y gellir adnabod anifeileiad a phlanhigion sydd i’w cael yn lleol a’u rhoi mewn grwpiau, drwy wneud a defnyddio allweddau.
CA3 PETHAU BYW YN EU HAMGYLCHEDD:
Ymaddasu:
1. Archwilio’r ffyrdd y mae gwahanol gynefinoedd yn cynnal planhigion ac anifeiliaid.
2. Am ffactorau sy’n effeithio ar faint poblogaethau gan gynnwys ysglyfaethu.
Perthnasoedd bwydo:
5. Sut y gellir meintioli cadwynau bwydydd drwy ddefnyddio pyramidau niferoedd.
6. Bod gweoedd bwydydd yn cynnwys sawl cadwyn fwyd.
Micro-organebau:
7. Am ficro-organebau sy’n niweidiol ac am eraill sy’n fuddiol.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (93 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (33 KB)
GWYBODAETH GYFFREDINOL:
MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.
Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.
Mae'r ymarferion yn cynnwys gweithgareddau llusgo lluniau a labeli i'r lle cywir, gweithgareddau didoli a gweithgareddau archwiliol. Gall rhai o'r gweithgareddau arwain at waith ymarferol yn y dosbarth. Mae botymau'n galluogi i'r plant agor paneli tasg, paneli cymorth a phaneli ymchwil fel y gallent weithio'n anibynnol neu mewn grwpiau heb lawer o gymorth gan yr athro. Gallant ddefnyddio'r botymau testun a phaneli geiriau a lluniau i ychwanegu gwybodaeth at y sgriniau.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o'r sgriniau yn cynnig opsiwn 'sgrîn wag' i'w hunan gynllunio. Mae hyn yn galluogi i'r plant ddilyn rhai agweddau o'r gwaith ymhellach, neu gwblhau tasgau wedi'i osod gan yr athro. Mae'r sgriniau newydd yn ddefnyddiol pe bae angen addasu'r sgriniau ar gyfer disgyblion anghenion arbennig.
Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Gan nad ydynt yn hunan gywiro, mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant.
