Casgliad o sgriniau i gefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau am y rhan fwyaf o ofynion y cwricwlwm Gwyddoniaeth CA2 Planhigion gwyrdd fel organebau i'r oedran hwn. Mae'r sgriniau'n cynnwys ymarferion am enwi'r prif rannau, twf a maethiad, cludiant a phrif gamau'r cylchred bywyd. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.
Y TEITL A’R CWRICWLWM:
Mae’r teitl yn cefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA2 PLANHIGION GWYRDD FEL ORGANEBAU. Mae'r teitl yn cynnwys rhai agweddau ar ofynion Cwricwlwm Cenedlaethol CA3 er mwyn rhoi mwy o her i'r dawnus a thalentog:
CA2 PLANHIGION GWYRDD FEL ORGANEBAU:
Twf a maethiad:
1. Ymchwilio i’r effaith a gaiff newid eu hamodau ar dwf planhigion.
2. Bod angen goleuni ar blanhigion i gynhyrchu bwyd.
3. Bod y gwreiddyn yn anghori’r planhigyn, ac y caiff dwr a maetholynnau eu cymryd i mewn drwy’r gwreiddyn a’u cludo drwy’r coesyn i rannau eraill y planhigyn.
Atgenhedlu:
4. Prif gamau cylchred bywyd planhigion blodeuol, gan gynnwys peilliad, cynhyrchu hadau, gwasgaru hadau ac egino.
5. Am y broses o beillio mewn planhigion blodeuol.
6. Sut y gellir cludo paill a hadau.
CA3 PLANHIGION GWYRDD FEL ORGANEBAU:
Twf a maethiad:
1. Bod ffotosynthesis yn cynhyrchu biomass ac ocsigen.
2. Bod angen carbon deuocsid, dwr a goleuni ar blanhigion ar gyfer ffotosynthesis.
3. Crynhoi ffotosynthesis mewn hafalid geiriol.
5. Bod gwreiddflew’n amsugno dwr a mwynau o’r pridd.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (97 KB)
Clciwch yma am sgrîn gipion (33 KB)
GWYBODAETH GYFFREDINOL:
MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.
Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.
Mae'r ymarferion yn cynnwys gweithgareddau llusgo lluniau a labeli i'r lle cywir, gweithgareddau didoli a gweithgareddau archwiliol. Gall rhai o'r gweithgareddau arwain at waith ymarferol yn y dosbarth. Mae botymau'n galluogi i'r plant agor paneli tasg, paneli cymorth a phaneli ymchwil fel y gallent weithio'n anibynnol neu mewn grwpiau heb lawer o gymorth gan yr athro. Gallant ddefnyddio'r botymau testun a phaneli geiriau a lluniau i ychwanegu gwybodaeth at y sgriniau.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o'r sgriniau yn cynnig opsiwn 'sgrîn wag' i'w hunan gynllunio. Mae hyn yn galluogi i'r plant ddilyn rhai agweddau o'r gwaith ymhellach, neu gwblhau tasgau wedi'i osod gan yr athro. Mae'r sgriniau newydd yn ddefnyddiol pe bae angen addasu'r sgriniau ar gyfer disgyblion anghenion arbennig.
Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Nid yw'r sgriniau'n hunan gywiro, felly mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant..
