Casgliad o sgriniau i gefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae'r sgriniau'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau am y rhan fwyaf o ofynion y cwricwlwm Gwyddoniaeth CA1 Proseau bywyd a phethau byw i'r oedran hwn gan gynnwys didoli anifeiliaid a phlanhigion, enwi prif rannau allanol a mewnol y corff dynol, bwyd, y cynefin, prif rannau planhigion gwyrdd a thyfu hadau. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.
Y TEITL A’R CWRICWLWM:
Mae’r teitl yn cefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA1 PROSESAU BYWYD A PHETHAU BYW fel y gweler isod:
Prosesau Bywyd:
1. Y gwahaniaethau rhwng pethau byw a phethau nad ydynt yn fyw.
2. Bod gan fodau dynol ac anifeiliaid eraill synhwyrau.
3. Bod anifeiliaid gan gynnwys bodau dynol yn symud, bod angen bwyd a diod arnynt,
eu bod yn tyfu ac atgenhedlu.
Bodau dynol ac anifeiliaid eraill:
1. Enwi prif rannau allanol y corff.
2. Adnabod nodweddion sy’n debyg ac yn wahanol ryngddynt.
3. Cymharu rhannau allanol cyrff dynol â rhannau allanol anifeiliaid eraill.
4. Bod bwyta’r mathau cywir o fwyd yn helpu bodau dynol i gadw’n iach.
5. Y gall bodau dynol gynhyrchu babanod a bod y babanod hyn yn tyfu’n oedolion.
Planhigion gwyrdd fel organebau:
1. Bod angen goleuni a dwr ar blanhigion i dyfu’n iach.
2. Adnabod deilen, blodyn, coesyn a gwreiddyn planhigyn blodeuol.
3. Bod planhigion blodeuol yn cynhyrchu hadau sydd yn eu tro yn cynhyrchu planhigion
newydd.
Pethau byw yn eu hamgylchedd:
1. I ddysgu am y gwahanol fathau o blanhigion ac anifeiliaid sydd i’ w cael yn yr
amgylchedd.
2. Bod modd gosod anifeiliaid a phlanhigion mewn grwpiau.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (94 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (32 KB)
GWYBODAETH GYFFREDINOL:
MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.
Mae'r ymarferion yn cynnwys gweithgareddau llusgo lluniau a labeli i'r lle cywir, gweithgareddau didoli a gweithgareddau archwiliol. Gall rhai o'r gweithgareddau arwain at waith ymarferol yn y dosbarth. Mae botymau'n galluogi i'r plant agor paneli tasg a phaneli cymorth fel y gallent weithio'n anibynnol neu mewn grwpiau heb lawer o gymorth gan yr athro. Gallant ddefnyddio'r botymau testun a phaneli geiriau a lluniau i ychwanegu gwybodaeth at y sgriniau. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.
Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o'r sgriniau yn cynnig opsiwn 'sgrîn wag' i'w hunan gynllunio. Mae hyn yn galluogi i'r plant ddilyn rhai agweddau o'r gwaith ymhellach, neu gwblhau tasgau wedi'i osod gan yr athro. Mae'r sgriniau newydd yn ddefnyddiol pe bae angen addasu'r sgriniau ar gyfer disgyblion anghenion arbennig.
Mae gan sgriniau'r fformat My World fotwm 'Ail Osod'. Mae hwn yn ddefnyddiol iawn yn enwedig wrth ddefnyddio'r bwrdd gwyn rhyngweithiol. Gall nifer o blant rhoi cynnig ar y gweithgareddau heb orfod ail lwytho'r meddalwedd.
Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Nid yw'r sgriniau'n hunan gywiro, felly mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant.
TEEM EVALUATION 2003 -
"The program provides a range of activities relating directly to KS1 Science: Life Processes and Living Things is a breath of fresh air in terms of its appeal and ease of use".
TEITL PERTHYNOL:
GWYDDONIAETH GYNNAR - Teitl hunangynhaliol i gefnogi'r CWRICWLWLM GWYDDONIAETH CA1.
