Casgliad o sgriniau mewn fformat My World a Textease i gefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA1 Prosesau Ffisegol . Mae’r pecyn yn cynnwys gweithgareddau am ffynonellau goleuni, goleuni a sain, gwthio a thynnu, newid cyfeiriad, y newid yn safle'r haul yn ystod y dydd, cysgodion, pethau trydanol a chylchedau syml. Angen My World 3*, My World for Windows neu Textease. (*Fersiwn Cymraeg My World 3 ar gael gan Gwmni Clic yn unig).

