SYLFAEN DDA

Sylfaenol

Trwydded 5 Cyfrifiadur- £72 + TAW
Trwydded Safle - £144
+ TAW

My World/Textease

Casgliad o 3 theitl i gefnogi rhifedd, llythrennedd a gwyddoniaeth. Mae'r pecyn yn cynnwys geirfa eang boed ysgrifenedig a llafar. Gall plant nad ydynt yn darllen clicio'r llygoden ar unrhyw destun neu raffeg gyda chymorth llais er mwyn ei glywed. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.

MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.

CLICIO A DEWIS - casgliad o dros gant o sgriniau amrywiol gyda llais go iawn i ddysgu maint, lliw a siâp i’r blynyddoedd cynnar / dysgwyr ail iaith. Trwy glicio ar y gwrthrych cywir ceir symud ymlaen at y dasg nesaf
TAI A'U CYNNWYS - casgliad o sgriniau ar rannau tai, mathau o dai, drws ffrynt cyffredin, y mathau o ddodrefn yn y gwahanol ystafelloedd, dyfeisiau trydanol ac amser te.
Y CORFF - ymarferion am nodweddion wyneb, rhannau allanol y corff a rhai o'r systemau mewnol. Mae'r sgrniau'n cynnwys gweithgareddau labelu, rhoi pethau mewn trefn, cwblhau brawddegau ac ymarferion deall.

Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.

Tai a'u Cynnwys ac Y Corff yn unig - mae gan sgriniau'r fformat My World fotwm 'Ail Osod'. Mae hwn yn ddefnyddiol iawn yn enwedig wrth ddefnyddio'r bwrdd gwyn rhyngweithiol. Gall nifer o blant rhoi cynnig ar y gweithgareddau heb orfod ail lwytho'r meddalwedd.

Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Nid yw'r sgriniau'n hunan gywiro, felly mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant.


Cliciwch yma am ragor or wybodaeth
Cliciwch yma am sgrîn gipion






   

 

 

 

 

 

© ClicSoft - 2004-09

Home - Catalogue - Contact - Exhibitions - About Us