TAI A CHARTREFI

Sylfaenol/CA1

Trwydded 5 Cyfrifiadur- £30 + TAW
Trwydded Safle - £60
+ TAW

Fformat My World/Textease
(Y ddau fformat ar yr un CD-ROM)

Cliciwch yma am gasgliad AR BEN Y FFORDD



Casgliad o sgriniau i gefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae'r sgriniau'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau am y rhan fwyaf o ofynion y cwricwlwm Gwyddoniaeth CA1 Defnyddiau a'u priodweddau a rhai agweddau o wyddoniaeth arbrofol ac ymchwilio i'r oedran hwn gan gynnwys gwahanol fathau o gartrefi, cartrefi anifeiliaid, ffyrdd o adeiladu waliau a thai ac adnabod mathau cyffredin o ddefnyddiau yn ein cartrefi ar sail priodweddau syml.

Y TEITL A’R CWRICWLWM:

Mae’r teitl yn cefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA1 DEFNYDDIAU A'U PRIODWEDDAU ac YMHOLIAD GWYDDONOL fel y gweler isod:

DEFNYDDIAU A’U PRIODWEDDAU

Grwpio defnyddiau::

1. Defnyddio’r synhwyrau i archwilio pethau sy’n debyg ac yn wahanol mewn
defnyddiau.
2. Didoli defnyddiau’n grwpiau.
3. Adnabod ac enwi mathau cyffredin o ddefnydd.
4. Dod o hyd i’r ffyrdd y defnyddir amrywiaeth o ddefnyddiau cyffredin.

YMHOLIAD GWYDDONOL

Sgiliau ymchwiliol:

1. Trosi syniadau a awgrymir iddynt yn ffurf y gellir ymchwilio iddi.
2. Y gall meddwl am yr hyn a allai digwydd.
3. Penderfyny beth y dylid arsylwi arno neu ei fesur.
4. Sylweddoli nad yw parawf bob amser yn deg.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (94 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (31 KB)

GWYBODAETH GYFFREDINOL:

MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.

Mae'r ymarferion yn cynnwys gweithgareddau llusgo lluniau a labeli i'r lle cywir, gweithgareddau didoli a gweithgareddau archwiliol. Gall rhai o'r gweithgareddau arwain at waith ymarferol yn y dosbarth. Mae botymau'n galluogi i'r plant agor paneli tasg a phaneli cymorth fel y gallent weithio'n anibynnol neu mewn grwpiau heb lawer o gymorth gan yr athro. Gallant ddefnyddio'r botymau testun a phaneli geiriau a lluniau i ychwanegu gwybodaeth at y sgriniau. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.

Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.

Yn ogystal â hyn, mae nifer o'r sgriniau yn cynnig opsiwn 'Sgrin newydd i'w hunan gynllunio. Mae'r sgriniau newydd yn ddefnyddiol pe bae'n anodd addasu'r sgriniau arferol neu pe bae angen addasu'r sgriniau ar gyfer disgyblion anghenion arbennig.

Mae gan sgriniau'r fformat My World fotwm 'Ail Osod'. Mae hwn yn ddefnyddiol iawn yn enwedig wrth ddefnyddio'r bwrdd gwyn rhyngweithiol. Gall nifer o blant rhoi cynnig ar y gweithgareddau heb orfod ail lwytho'r meddalwedd.

Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Gan nad ydynt yn hunan gywiro, mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant.

TEITL PERTHYNOL:

GWYDDONIAETH GYNNAR - Teitl hunangynhaliol i gefnogi'r CWRICWLWLM GWYDDONIAETH CA1.


 


   

 

 

 

 

 

© ClicSoft - 2004-09

Home - Catalogue - Contact - Exhibitions - About Us