Casgliad o sgriniau gyda llais go iawn ar fathau o dai a’r dodrefn ynddynt i gefnogi llythrennedd cynnar. Sgriniau ar rannau tai, mathau o dai, drws ffrynt cyffredin, y mathau o ddodrefn yn y gwahanol ystafelloedd, dyfeisiau trydanol ac amser te. Y pecyn yn cynnwys geirfa eang boed ysgrifenedig a llafar. Gall plant nad ydynt yn darllen clicio'r llygoden ar unrhyw destun neu raffeg gyda chymorth llais er mwyn ei glywed.
Mae gan sgriniau'r fformat My World fotwm 'Ail Osod'. Mae hwn yn ddefnyddiol iawn yn enwedig wrth ddefnyddio'r bwrdd gwyn rhyngweithiol. Gall nifer o blant rhoi cynnig ar y gweithgareddau heb orfod ail lwytho'r meddalwedd. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.
MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.
Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World ar gael gan ClicSoft.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (88 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (27 KB)
