Casgliad o sgriniau i gefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau am y rhan fwyaf o ofynion y cwricwlwm Gwyddoniaeth CA2 Trydan a phwer i'r oedran hwn. Mae'r sgriniau'n cynnwys ymarferion am gynrychioli cylchedau ar ffurf lluniadau a diagramau, adeiladu cylchedau mewn trefniadau cyfres a pharalel a rôl switsys. Yn ogystal â hyn, mae'r meddalwedd yn cynnwys adran am gynhyrchu trydan mewn pwerdai. Mae'r adran hon yn cynnnwys sgriniau am y prif ffynhonellau egni gan gynnwys tanwyddau ffosil, egni geothermic, niwclear, solar, gwynt, y llanw a bio-egni. Cliciwch ar y dolennau cyswllt isod i weld y ddogfennaeth a rhai sgrîn gipion ar ffurff pdf.
Y TEITL A’R CWRICWLWM:
Mae’r teitl yn cefnogi Rhaglen Astudio Cwricwlwm Cenedlaethol CA2 TRYDAN A PHWER. Mae'r teitl yn cynnwys rhai agweddau ar ofynion Cwricwlwm Cenedlaethol CA3 er mwyn rhoi mwy o her i'r dawnus a thalentog: Ychwanegwyd yr adran ar greu trydan er mwyn cefnogi diddordebau pellach, gwaith prosiect ac ymweliadau addysgiadol.
CA2 TRYDAN:
Cylchedau syml:
1. Bod angen cylched ddargludol gyflawn, gan gynnwys batri neu gyflenwad pwer er mwyn i gerrynt lifo a gwneud i ddyfeisiau trydanol weithio.
2. Ymchwilio i sut y gellir defnyddio switsys i reoli dyfeisiau trydanol mewn trefniadau cyfres a pharalel syml.
3. Y gellir rheoli pa mor llachar yw bylbiau drwy newid y cerrynt.
4. Ffyrdd o amrywio’r cerrynt mewn cylched.
5. Sut I gynrychioli cylchedau syml drwy gyfrwng llunaiadau a diagramau.
CA3 TRYDAN:
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (94 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (31 KB
GWYBODAETH GYFFREDINOL:
MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn ei gwneud yn hawdd newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.
Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.
Mae'r ymarferion yn cynnwys gweithgareddau llusgo lluniau a labeli i'r lle cywir, gweithgareddau didoli a gweithgareddau archwiliol. Gall rhai o'r gweithgareddau arwain at waith ymarferol yn y dosbarth. Mae botymau'n galluogi i'r plant agor paneli tasg, paneli cymorth a phaneli ymchwil fel y gallent weithio'n anibynnol neu mewn grwpiau heb lawer o gymorth gan yr athro. Gallant ddefnyddio'r botymau testun a phaneli geiriau a lluniau i ychwanegu gwybodaeth at y sgriniau.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o'r sgriniau yn cynnig opsiwn 'sgrîn wag' i'w hunan gynllunio. Mae hyn yn galluogi i'r plant ddilyn rhai agweddau o'r gwaith ymhellach, neu gwblhau tasgau wedi'i osod gan yr athro. Mae'r sgriniau newydd yn ddefnyddiol pe bae angen addasu'r sgriniau ar gyfer disgyblion anghenion arbennig.
Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Nid yw'r sgriniau'n hunan gywiro, felly mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (94 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (31 KB)
