Casgliad o 7 teitl yn cynnwys dros 200 o sgriniau wedi'i greu gan gyn athrawes Wyddoniaeth. Mae’r meddalwedd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau am y rhan fwyaf o ofynion y cwricwlwm gwyddoniaeth i'r oedran hwn ac yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd neu adolygu gwaith blaenorol. Gweler Y TEITL A'R CWRICWLWM isod am ragor o wybodaeth.
Bodau dynol fel organebau - sgriniau am rannau'r corff, y gwaed, dannedd, symud, anadlu, diet ac effaith ysmygu ac alcohol.
Planhigion gwyrdd fel orgenebau - sgriniau am rannau planhigon, ffotosynthesis, peilliad, ffrwythloniad, creu hadau a chludiant.
Pethau byw yn eu hamgylchedd - sgriniau am brosesau bywyd, cadwyni bwyd, pyramidau niferoedd, allweddau ac addasiad.
Defnyddiau a'u priodweddau - sgriniau am y gylchred ddwr, pridd, mathau o greigiau ac adnabod, grwpiio a gwahanu defnyddiau.
Goleuni, sain a'r Ddaear a thu hwnt - sgriniau am oleuni a sain, gweld a chlywed, y Ddaear, Yr Haul a'r planedau.
Grymoedd a mudiant - sgriniau am wahanol fathau o rymoedd gan gynnwys magnetedd, gwrthiant aer, gwrthiant dwr a disgyrchiant.
Trydan a phwer - sgriniau am gylchedau, bylbiau, switsys, ffynonhellau egni a'r ffyrdd o gynhyrchu trydan.
GWYBODAETH GYFFREDINOL:
MAE ANGEN MY WORLD NEU TEXTEASE I REDEG Y MEDDALWEDD YMA. Mae'r CD-ROM yn cynnwys fformat My World a fformat Textease y meddalwedd. Mae botymau graddio ar y teitlau My World yn gadael i'r plant newid maint unrhyw destun neu raffeg symudol yn hawdd. Mae hyn yn ddefnydddiol i blant gyda NAM GOLWG. Mae'r fformat My World yn mewnosod. Rhaid copïo'r fformat Textease i'r cyfrifiadur.
Mae fersiwn Cymraeg / Saesneg My World 3 ar gael gan ClicSoft.
Mae'r ymarferion yn cynnwys gweithgareddau llusgo lluniau a labeli i'r lle cywir, gweithgareddau didoli a gweithgareddau archwiliol. Gall rhai o'r gweithgareddau arwain at waith ymarferol yn y dosbarth. Mae botymau'n galluogi i'r plant agor paneli tasg, paneli cymorth a phaneli ymchwil fel y gallent weithio'n anibynnol neu mewn grwpiau heb lawer o gymorth gan yr athro. Gallant ddefnyddio'r botymau testun a phaneli geiriau a lluniau i ychwanegu gwybodaeth at y sgriniau.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o'r sgriniau yn cynnig opsiwn 'sgrîn wag' i'w hunan gynllunio. Mae hyn yn galluogi i'r plant ddilyn rhai agweddau o'r gwaith ymhellach, neu gwblhau tasgau wedi'i osod gan yr athro. Mae'r sgriniau newydd yn ddefnyddiol pe bae angen addasu'r sgriniau ar gyfer disgyblion anghenion arbennig.
Mae'r meddalwedd yn ddefnyddiol wrth gyflwyno unedau gwaith newydd ac wrth adolygu gwaith blaenorol. Mae'n bosib addasu'r sgriniau. Nid yw'r sgriniau'n hunan gywiro, felly mae'r plant yn gallu gwneud a chyfiawnhau eu penderfyniadau eu hunain. Wrth wahaniaethu drwy ganlyniad, mae pob sgrîn yn cynnig cyfle i asesu'r plant.
Y TEITL A'R CWRICWLWM:
Casgliad o 7 teitl unigol ar un CD-ROM, megis BODAU DYNOL FEL ORGANEBAU, DEFNYDDIAU A'U PRIODWEDDAU, GOLEUNI, SAIN A'R DDAEAR A THU HWNT, GRYMOEDD A MUDIANT, PETHAU BYW YN EU HAMGYLCHEDD, PLANHIGION GWYRDD FEL ORGANEBAU a THRYDAN A PHWER. Gweler y teitlau unigol isod am agweddau cwricwlaidd y meddalwedd. Cliciwch ar y dolenneau cyswllt isod am ragor o wybodaeth.
A. BODAU DYNOL FEL ORGANEBAU:
CA2 BODAU DYNOL AC ANIFEILIAID ERAILL:
Maethiad:
1. Sut mae’r dannedd yn torri bwyd yn llai a phwysigrwydd gofalu am y dannedd.
2. Bod angen gwahanol fwydydd ar y corff ar gyfer gweithgarwch ac ar gyfer twf.
3. Bod angen diet digonol ac amrywiol i gadw’n iach.
Cylchrediad:
4. Bod y galon yn gweithredu fel pwmp.
5. Sut mae’r gwaed yn cylchredeg yn y corff drwy rydwelïau a gwythiennau.
6. Bod y curiad yn rhoi mesur o gyfradd uriad y galon.
7. Effaith ymarfer corff a gorffwys ar gyfradd curiad y galon.
Symud:
8. Bod gan fodau dynol sgerbydau a chyhyrau i gymmal ac amddiffyn eu cyrff a’u helpu i symud.
Twf ac atgenhedlu:
9. Prif gamau cylchred bywyd dynol (heb gynnwys yr organau rhyw).
Iechyd:
10. Gall tybaco, alcohol a chyffuriau eraill fod ag effeithiau niweidiol.
CA3 BODAU DYNOL FEL ORGANEBAU:
Maethiad:
2. Dod i wybod am rai o ffynonellau’r prif gydrannau bwyd yn y diet.
3. Prif swyddogaethau cydrannau diet cytbwys.
Cylchrediad:
6. Sut mae’r gwaed yn gweithredu fel cyfrwng cludo.
Symud:
7. Rôl y sgerbwd, y cymalau a’r cyhyrau wrth symud.
8. Yr egwyddor o baru gwrthweithiol o gyhyrau.
Twf ac atgenhedlu:
11. Sut mae’r ffoetws yn datblygu yn y groth gan gynnwys rôl y brych.
Anadlu:
12. Sut mae adeiledd yr ysgyfaint yn fodd i gyfnewid nwyon.
13. Bod ysmygu’n effeithio ar y broses o gyfnewid nwyon.
Iechyd:
18. Bod camdefnyddio alcolohol a tybaco yn effeithio ar yr iechyd.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (97 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (32 KB)
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
B. DEFNYDDIAU A'U PRIODWEDDAU:
CA2 DEFNYDDIAU A’U PRIODWEDDAU:
Grwpio a dosbarthu defnyddiau:
1. Cymharu defnyddiau pob dydd ar sail eu priodweddau.
2. Bod rhai defnyddiau’n well nac eraill am ynysu / dargludo gwres.
3. Bod rhai defnyddiau’n well nac eraill am ddargludo / ynysu trydan.
4. Disgrifio a grwpio creigiau ar sail ymddangosiad a gwead, a phriddoedd ar sail maint y gronynnau a’r athreidded.
5. Adnabod gwahaniaethau rhwng solidau, hylifau a nwyon ar ran eu priodweddau.
Newid defnyddiau:
1. Archwilio’r newidiadau mewn defnyddiau ac adnabod y rhai y gellir eu cildroi a’r
rhai na ellir eu cildroi.
2. Bod hydoddi, ymdoddi, cyddwyso, rhewi ac anweddu yn newidiadau y gellir eu cildroi.
3. Bod newidiadau na ellir eu cildroi yn cynhyrchu defnydd newydd.
4. Nad yw’n bosib cildroi newidiadau sy’n digwydd wrth losgi’r rhan fwyaf o ddefnyddiau.
5. Y gall cymysgu defnyddiau achosi iddynt newid.
6. Y gall gwresogi neu oeri defnyddiau achosi iddynt newid.
7. Mae mesur o ba mor boeth neu oer yw pethau yw tymheredd.
8. Y rhan a chwareir gan anweddu a chyddwyso yn y gylchred ddwr.
Gwahanu cymysgeddau o ddefnyddiau:
1. Bod modd gwahanu gronynnau solid o wahanol faint drwy ridyllu.
2. Bod rhai solidau yn hydoddi mewn dwr I roi hydoddiannau, ond nad yw rhai solidau
yn gwneud hynnu, a bod hyn yn ffordd o wahanu gwahanol solidau.
3. Bod modd gwahanu solidau anhydawdd oddi wrth hylifau drwy hidlo.
4. Bod modd adfer solidau sydd wedi hydoddi drwy anweddu’r hylif o’r hydoddiant.
CA3 DEFNYDDIAU A’U PRIODWEDDAU:
Newid defnyddiau: :
6. Sut caiff creigiau igneaidd, gwaddodol a metamorffig eu ffurfio.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (96 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (33 KB)
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
C. GOLEUNI, SAIN A'R DDAEAR A THU HWNT:
CA2 GOLEUNI A SAIN
:
Ymddygiad g oleuni:
1. Bod goleuni’n teithio oddi wrth ffynhonnell.
2. Ein bod yn gweld ffynonellau goleuni oherwydd bod goleuni yn teithio oddi wrthynt ac i mewn i’n llygaid.
3. Ein bod yn gweld gwrthrychau oherwydd caiff y goleuni sy’n syrhtio arnynt yn cael ei adlewyrchu.
4. Caiff y rhan fwyaf o’r goleuni sy’n syrthio ar arwyneb sgleiniog a drychau ei adlewyrchu.
5. Na all goleuni fynd drwy rai ddefnyddiau, a bod hynny’n arwain at ffurfio cysgodion.
Dirgrynu a sain:
6. Bod seiniau’n cael eu gwneud pan fydd gwrthrychau yn dirgrynnu.
7. Gellir newid traw a chryfder seiniau a gynhyrchir gan rai gwrthrychau sy’n dirgrynu.
8. Gall dirgryniadau a ffynonellau sain deithio drwy amrywiaeth o ddefnyddiau.
CA2 Y DDAEAR A THU HWNT:
Yr Haul, Y Lleuad a'r Planedau:
1. Bod yr Haul, y Ddaear a’r Lleuad fwy neu lai yn sfferig.
2. Safleoedd cymharol yr Haul, y Ddaear a’r planedau eraill yng nghysawd yr haul.
Newidiadau cyfnodol:
3. Sut mae safle’r Haul fel petai’n newid dros ddiwrnod cyfan a mae cysgodion yn newid wrth i hynny ddigwydd.
4. Bod y Ddaear yn troelli o amgylch ei hechelin ei hun, a sut mae dydd a nos yn gysylltiedig a’r troelli hwnnw.
5. Bod y Ddaear yn troi o gwmpas yr Haul unwaith y flwyddyn, a bod y Lleuad yn cymryd rhyw 28 diwrnod i droi o gwmpas y Ddaear.
CA3 GOLEUNI A SAIN:
Clywed:
10. Bod tonnau sain yn peri idympan y glust ddirgrynu.
Dirgrynu a sain:
13. Y cyswllt thwng cryfder sain ac osgledd y dirgrynu sy'n ei achosi.
14. Y cyswllt rhwng traw sain ac amledd y dirgrynu sy'n ei achosi.
CA3 Y DDAEAR A THU HWNT:
Symudiadau lloeren:
1. Mae symudiadau'r Ddaear sy'n achosi symudiadau beunyddiol a blynyddol ymddangosiadol yr Haul.
2. Bod amser orbital planed / lloeren yn dibynnu ar ei phellter o'r Haul / Ddaear.
4. Bod yr Haul a'r ser eraill yn ffynonellau goleuni.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (96 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (29 KB)
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
D. GRYMOEDD A MUDIANT:
CA2 GRYMOEDD A MUDIANT:
Ymddygiad grymoedd:
1. Mesur y grymoedd rhwng gwrthrychau a darganfod sut mae’r grymoedd yn newid o ran maint.
2. Bod grymoedd yn gweithredu I gyfeiriadau penodol.
3. Gall grymoedd achosi I bethau cyflymu, arafu a newid cyfeiriad.
Mathau o rym:
4. Bod grymoedd atynnu a grymoedd gwrthyrru rhwng magnetau, a grymoedd atynnu rhwng magnetau a rhai defnyddiau.
5. Mai pwysau gwrthrych yw grym y Ddaear ar y gwrthrych ac fe’u mesurir mewn newtonau.
6. Ffrithiant gan gynnwys gwrthiant aer.
7. Bydd gwrthrychau sy’n cael eu hestyn neu eu cywasgu yn gweithredu grym ar beth bynnag sy’n newid eu siâp.
8. Defnyddir y newid yn siâp sbring mewn mesuryddion grym ar gyfer mesur grymoedd.
CA3 GRYMOEDD A MUDIANT:
Grym a mudiant:
3. Bod grymoedd anhytbwys yn newid buanedd a / neu gyfeiriad gwrthrychau sy'n symud.
5. Ffyrdd y gall grymoedd ffrithiannl gan gynnwys gwrthiant aer effeithio ar fudiant.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (91 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (30 KB)
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
E. PETHAU BYW YN EU HAMGYLCHEDD:
CA2 PETHAU BYW YN EU HAMGYLCHEDD:
Prosesau bywyd:
1.Bod prosesau bywyd i'w gael gan gynnwys maethiad, symud, twf ac atgenhedlu, sy'n gyffredin i anifeilaid gan gynnwys bodau dynol.
2. Bod prosesau bywyd i'w gael gan gynnwys maethiad, twf ac atgenhedlu, sy'n gyffredin i blanhigion.
Ymaddasu:
1. Ymchwilio i’r amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid gwahanol mewn cynefinoedd gwahanol.
2. Sut mae anifeiliaid a phlanhigion mewn dau gynefin gwahanol yn addas i’w hamgylchedd.
3. Bod cadwynau bwydydd yn dangos perthnasoedd bwydo mewn ecosystem.
Perthnasoedd bwydo:
4. Bod bron pob cadwyn fwyd yn cychwyn gyda phlanhigion gwyrdd.
Amrywiad:
5. Sut y gellir adnabod anifeileiad a phlanhigion sydd i’w cael yn lleol a’u rhoi mewn grwpiau, drwy wneud a defnyddio allweddau.
CA3 PETHAU BYW YN EU HAMGYLCHEDD:
Ymaddasu:
1. Archwilio’r ffyrdd y mae gwahanol gynefinoedd yn cynnal planhigion ac anifeiliaid.
2. Am ffactorau sy’n effeithio ar faint poblogaethau gan gynnwys ysglyfaethu.
Perthnasoedd bwydo:
5. Sut y gellir meintioli cadwynau bwydydd drwy ddefnyddio pyramidau niferoedd.
6. Bod gweoedd bwydydd yn cynnwys sawl cadwyn fwyd.
Micro-organebau:
7. Am ficro-organebau sy’n niweidiol ac am eraill sy’n fuddiol.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (93 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (33 KB)
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
F. PLANHIGION GWYRDD FEL ORGANEBAU:
CA2 PLANHIGION GWYRDD FEL ORGANEBAU:
Twf a maethiad:
1. Ymchwilio i’r effaith a gaiff newid eu hamodau ar dwf planhigion.
2. Bod angen goleuni ar blanhigion i gynhyrchu bwyd.
3. Bod y gwreiddyn yn anghori’r planhigyn, ac y caiff dwr a maetholynnau eu cymryd i mewn drwy’r gwreiddyn a’u cludo drwy’r coesyn i rannau eraill y planhigyn.
Atgenhedlu:
4. Prif gamau cylchred bywyd planhigion blodeuol, gan gynnwys peilliad, cynhyrchu hadau, gwasgaru hadau ac egino.
5. Am y broses o beillio mewn planhigion blodeuol.
6. Sut y gellir cludo paill a hadau.
CA3 PLANHIGION GWYRDD FEL ORGANEBAU:
Twf a maethiad:
1. Bod ffotosynthesis yn cynhyrchu biomass ac ocsigen.
2. Bod angen carbon deuocsid, dwr a goleuni ar blanhigion ar gyfer ffotosynthesis.
3. Crynhoi ffotosynthesis mewn hafalid geiriol.
5. Bod gwreiddflew’n amsugno dwr a mwynau o’r pridd.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (97 KB)
Clciwch yma am sgrîn gipion (33 KB)
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
G. TRYDAN A PHWER:
CA2 TRYDAN:
Cylchedau syml:
1. Bod angen cylched ddargludol gyflawn, gan gynnwys batri neu gyflenwad pwer er mwyn i gerrynt lifo a gwneud i ddyfeisiau trydanol weithio.
2. Ymchwilio i sut y gellir defnyddio switsys i reoli dyfeisiau trydanol mewn trefniadau cyfres a pharalel syml.
3. Y gellir rheoli pa mor llachar yw bylbiau drwy newid y cerrynt.
4. Ffyrdd o amrywio’r cerrynt mewn cylched.
5. Sut I gynrychioli cylchedau syml drwy gyfrwng llunaiadau a diagramau.
CA3 TRYDAN:
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth (94 KB)
Cliciwch yma am sgrîn gipion (31 KB
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
